Croeso i ein gwefan

Mae Ysgol Santes Helen wedi bod yn gwasanaethu plant Twtil a'r ardaloedd cyfagos yn nhref Caernarfon ers 1891. Rydym ni'n ysgol unigryw gan ein bod yn ysgol Gatholig sy'n dysgu'n bennaf trwy gyfwng y Gymraeg. Rydym ni'n darparu ar gyfer plant Catholig, llawer ohonynt wedi symud i'r ardal o bedwar ban byd! Wedi dweud hynny rydym ni'n croesawu plant o bob cefndir diwylliannol a chrefydd ac yn ymfalchïo fod cymaint o amrywiaeth o fewn ein hysgol fechan. Credwn fod hyn yn creu dinasyddion goddefgar ar gyfer y dyfodol. Gan ein bod yn ysgol gymharol fechan o ran niferoedd gallwn gynnig naws ysgol bentref o fewn y dref.

Mae Ysgol Santes Helen yn Ysgol Gynradd Gatholig dan Reolaeth Wirfoddol. Caiff yr ysgol ei chynnal yn llawn gan yr Awdurdod Addysg Lleol, Cyngor Gwynedd, yn unol â Deddf Addysg 1944. Darparwn addysg ar gyfer plant o oed Meithrin hyd un ar ddeg ac rydym yn derbyn plant nad ydynt yn Gatholigion yn ogystal â phlant sydd â rhieni'n Gatholigion.

Cysylltwch

Pennaeth
Mrs Eirian Bradley‐Roberts B.A., M.Ed.

Ysgol Santes Helen,
Twtil,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1PS

(01286) 674856

Eirian.Bradley-Roberts@santeshelen.ysgoliongwynedd.cymru

Llywodraethwyr

clercsanteshelen@gmail.com

 

Gan fod yr ysgol yn un Gatholig gyda chymorth gwirfoddol mae rhieni sydd eisiau holi am le yn yr ysgol'n gallu cysylltu'n uniongyrchol gyda ni trwy e.bost neu ffonio 01286 674856 a does dim angen mynd trwy'r Cyngor Sir

Mae plant yn gallu cael eu derbyn i'r ysgol yn y mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn dair oed.