Gwaith Cartref

Rhoddir gwaith cartref i'r plant yn yr ysgol hon. Mae plant o ddosbarth Derbyn i fyny yn cael llythrennau ac wedyn llyfr darllen i'w ddarllen gartref. Y gobaith hefyd yw y bydd diddordeb y plant mewn themâu a phynciau penodol yn aml yn ymestyn i oriau ar ôl ysgol. Pan fydd hyn yn digwydd y gobaith yw y bydd y cartref yn cydweithredu i annog y plentyn yn ei waith.

Ym mlynyddoedd 3-6 weithiau rhoddir restr sillafu neu tablau i blant ymarfer adref ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn ysgol. O bryd i'w gilydd mae gweithgaredd penodol yn gofyn am wybodaeth gan rieni, perthnasau a chymdogion, neu'n gofyn am waith cyfweld ac ymchwil gan y plentyn. Gwerthfawrogir mai cyfrifoldeb y rhieni neu'r gwarcheidwaid yw'r plentyn yn ystod yr oriau hyn a bydd eu parodrwydd i gydweithredu yn cael ei ddeall yng ngoleuni'r cyfrifoldeb hwn.

Weithiau bydd athro penodol yn gofyn i blentyn wneud gwaith ychwanegol er mwyn goresgyn peth gwendid neu ganolbwyntio ar agwedd arbennig ar waith. Ar yr adeg honno, y gobaith yw y bydd cydweithrediad llawn y cartref ar ddod ynghyd ag anogaeth i'r plentyn wneud y gwaith.

Cysylltwch

Pennaeth
Mrs Eirian Bradley‐Roberts B.A., M.Ed.

Ysgol Santes Helen,
Twtil,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1PS

(01286) 674856

Eirian.Bradley-Roberts@santeshelen.ysgoliongwynedd.cymru

Llywodraethwyr

clercsanteshelen@gmail.com